{"id":346,"date":"2013-05-31T10:49:45","date_gmt":"2013-05-31T10:49:45","guid":{"rendered":"http:\/\/79.170.44.120\/walesnationalairshow.com\/?page_id=346"},"modified":"2025-07-02T17:44:19","modified_gmt":"2025-07-02T17:44:19","slug":"gynaladwyedd","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\/gynaladwyedd\/","title":{"rendered":"Cynaladwyedd"},"content":{"rendered":"\n<p>Rydym yn gwybod bod ein holl ymwelwyr \u00e2 Sioe Awyr Cymru&#8217;n mwynhau&#8217;r lleoliad anhygoel gymaint \u00e2 ni, ac rydym yr un mor frwdfrydig ac ymrwymedig i sicrhau bod cyn lleied o effaith amgylcheddol o ganlyniad i&#8217;r digwyddiad ag sy&#8217;n bosib.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn ymgynghori&#8217;n flynyddol ag amrywiaeth o grwpiau i gynllunio&#8217;r Sioe Awyr, gan gynnwys ein t\u00eem ailgylchu mewnol, asiantaethau allanol ac eraill er mwyn ystyried cynifer o ffactorau \u00e2 phosib, fel y gallwn gyflwyno digwyddiad pleserus a chynaliadwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Darllenwch ymlaen i ddarganfod y cynlluniau a&#8217;r mentrau a fydd ar waith er mwyn cadw&#8217;r Sioe Awyr mor wyrdd ac mor gynaliadwy \u00e2 phosib;<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Addewid hinsawdd<\/h2>\n\n\n\n<p>Abertawe wyrddach, sero-net erbyn 2050 &#8211; gwnewch addewid a chwaraewch eich rhan! <\/p>\n\n\n\n<p>Llofnodom Siarter Cyngor Abertawe ar Weithredu ar yr Hinsawdd ym mis Rhagfyr 2020, sy&#8217;n ymrwymiad i weithredu ar newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth a natur.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein partneriaid ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe ymhlith eraill wedi ymrwymo i Siarter Abertawe ar weithredu ar yr hinsawdd, sy&#8217;n nodi eu hymrwymiad nhw hefyd. <a href=\"https:\/\/www.abertawe.gov.uk\/addewidhinsawdd\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Rhagor o wybodaeth.<\/a><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-css-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ailgylchu yn y Sioe Awyr<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li> Fel rhan o&#8217;r broses dendro, gofynnwyd i&#8217;r holl stondinau arlwyo ddefnyddio pecynnu ecogyfeillgar yn unig.<\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn rhoi sachau ailgylchu i fasnachwyr, ynghyd \u00e2 chyngor ar ddidoli gwastraff. Hefyd mae&#8217;r criwiau sbwriel yn patrolio&#8217;r stondinau drwy gydol y dydd ac yn casglu sachau ailgylchu, gan fynd \u00e2 nhw&#8217;n \u00f4l i fannau ailgylchu.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd 12 brif bwynt ailgylchu yn y sioe awyr wedi&#8217;u marcio \u00e2 baneri ac arwyddion ailgylchu enfawr. Mae\u2019r mannau ailgylchu ar hyd y prom a safleoedd y digwyddiad rhwng Brynmill Lane a\u2019r Ganolfan Ddinesig.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd gwirfoddolwyr wrth law i&#8217;ch helpu i roi&#8217;r sbwriel yn y biniau cywir.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd casglwyr sbwriel yn patrolio ardal y prom a&#8217;r traeth drwy gydol y digwyddiad a bydd y sbwriel a gesglir yn cael ei ddidoli i&#8217;w ailgylchu.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-css-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pweru&#8217;r digwyddiad<\/h2>\n\n\n\n<p>Eleni bydd ein cyflenwr ynni yn defnyddio tanwydd Green D+ (HVO) ar gyfer y generaduron. Mae&#8217;r cyflenwr yn gyflenwr p\u0175er digwyddiadau profiadol sydd wedi&#8217;i leoli yn Ne Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth yw Green D + HVO?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.oilfast.co.uk\/commercial\/greend-hvo-the-renewable-diesel-replacement\/\">Biodanwydd adnewyddadwy y gellir ei ddefnyddio yn lle diesel yw Green<\/a> D + HVO (olew llysiau wedi&#8217;i drin \u00e2 hydrogen), ac fe\u2019i wnaed i safon EN15940. Dyma&#8217;r tanwydd \u00e2&#8217;r allyriadau isaf sydd ar gael i\u2019w ddefnyddio yn lle diesel.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>O beth y mae Green D + HVO wedi\u2019i wneud?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gwneir GD+ yn gyfan gwbl o wastraff ac fe&#8217;i diffinnir fel adnewyddadwy a chynaliadwy (RED11). Biodanwydd adnewyddadwy a chynaliadwy sy&#8217;n deillio o wastraff a gweddillion olew yw Green D+. Mae&#8217;n ddewis amgen i danwydd diesel a biodiesel (ester methyl asid brasterog). HVO ydyw&#8217;n bennaf, sef olew llysiau wedi&#8217;i drin \u00e2 hydrogen, sydd wedi&#8217;i wella gyda system ychwanegion priodol.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-css-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Refill a gorsafoedd d\u0175r<\/h2>\n\n\n\n<p>Rydym yn ymrwymedig i leihau gwastraff plastig cymaint \u00e2 phosib, a bydd gennym 2 gorsaf d\u0175r yn y digwyddiad er mwyn i chi lenwi&#8217;ch poteli \u00e2 d\u0175r am ddim. Maent wedi&#8217;u lleoli yn y mannau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>y Ganolfan Ddinesig (ardal laswelltog)<\/li>\n\n\n\n<li>Ger y Senotaff<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd y gorsafoedd d\u0175r hyn wedi&#8217;u nodi&#8217;n glir.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FB-Assets-3-1024x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8731\" style=\"width:205px;height:205px\" srcset=\"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FB-Assets-3-1024x1024.png 1024w, https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FB-Assets-3-150x150.png 150w, https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FB-Assets-3-300x300.png 300w, https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FB-Assets-3.png 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Gallwch hefyd ddod o hyd i leoliadau ein gorsafoedd d\u0175r (ac eraill yn yr ardal leol) trwy <a href=\"https:\/\/refill.org.uk\/get-the-refill-app\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">lawrlwytho ap Refill am ddim.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Ymgyrch arobryn yw Refill, a ddyluniwyd i&#8217;ch helpu i leihau eich llygredd plastig trwy ei wneud yn hawdd i ail-lenwi&#8217;ch potel dd\u0175r ailddefnyddiadwy yn lle prynu potel blastig. <a href=\"https:\/\/refill.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Darganfyddwch ragor am eu menter wych yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Masnach Deg a chynnyrch lleol<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r broses dendro ar gyfer arlwywyr yn rhoi blaenoriaeth i&#8217;r masnachwyr sy&#8217;n defnyddio cynnyrch Masnach Deg a chynnyrch lleol\/Cymreig lle bynnag y bo modd. Mae&#8217;r cwmni arlwyo llwyddiannus wedi&#8217;i leoli yn Ne Cymru ac mae ganddo ymagwedd cydgysylltiedig at rannu p\u0175er a dosbarthu bwyd, gan ddefnyddio cyflenwyr lleol lle bynnag y bo modd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">TRAFFIG A PHARCIO<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae cynllun rheoli traffig y digwyddiad yn annog pobl i ddefnyddio&#8217;r <strong>safleoedd parcio a theithio, rhannu ceir neu ddefnyddio dulliau eraill o gludiant<\/strong> lle bynnag y bo modd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">PLANNU COED<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r cyngor yn plannu coed a llwyni ychwanegol ar draws y ddinas.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">AWYRENNAU MILWROL<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r awyrennau milwrol sy&#8217;n cymryd rhan yn yr arddangosiad yn gwneud hynny fel rhan o&#8217;u hyfforddiant arferol, oherwydd bod rhaid i beilotiaid gwblhau nifer penodol o oriau hedfan bob blwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-css-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Amcanion Cynaliadwy Contractwr y Digwyddiad<\/h2>\n\n\n\n<p>Caiff holl gyflenwyr y digwyddiad eu sgorio yn eu tendrau yn \u00f4l eu hamcanion cynaliadwy a sut y gallant ddiwallu&#8217;n hamcanion ni.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2019, datganodd Cyngor Abertawe <strong>argyfwng hinsawdd<\/strong>, a dilynwyd hyn gan gynllun gweithredu i leihau ein hallyriadau sefydliadol, adolygiad polisi i sicrhau ein bod yn <strong>mynd i&#8217;r afael \u00e2 newid yn yr hinsawdd fel rhan o bopeth y mae&#8217;r<\/strong><strong> cyngor yn ei wneud<\/strong>, a chynlluniau ar gyfer ymgysylltu \u00e2 phartneriaid a dinasyddion a gweithio gyda nhw.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn dangos ymrwymiad Cyngor Abertawe i Fod yn Abertawe Sero-Net o ran carbon, cymeradwywyd Siarter Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Abertawe yn ystod cyfarfod y cyngor ar 3 Rhagfyr 2020.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Siarter yn nodi ein hymrwymiad i weithio tuag at ddod yn sefydliad Sero-Net o ran carbon trwy wneud y canlynol:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ymrwymo i weithio tuag at ddod yn sefydliad <strong>Sero-Net o ran carbon<\/strong> erbyn 2030<\/li>\n\n\n\n<li>Cymryd camau i ateb her yr argyfwng hinsawdd<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gweithio ar y cyd <\/strong>\u00e2 phartneriaid i ddatblygu strategaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnwys rhanddeiliad gan gynnwys plant a phobl ifanc mewn trafodaethau i feithrin ymddiriedaeth.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am Gynllun Hinsawdd a pholis\u00efau Cyngor Abertawe <a href=\"https:\/\/www.swansea.gov.uk\/climatechange\">yma<\/a>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae egwyddorion Amgylcheddol a Chynaliadwy ein rhaglen Digwyddiadau fel a ganlyn:-<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhoi gwerth go iawn i&#8217;r gymuned leol ac ehangach<\/li>\n\n\n\n<li>Lleihau allyriadau carbon* a chaffael datrysiadau carbon isel<\/li>\n\n\n\n<li>Mwyafu effeithlonrwydd ynni a&#8217;r gyfran o ynni o ffynonellau adnewyddadwy<\/li>\n\n\n\n<li>Mwyafu effeithlonrwydd d\u0175r a lleihau effaith d\u0175r gwastraff a charthffosiaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Osgoi deunyddiau untro a lleihau gwastraff drwy fabwysiadu&#8217;r hierarchaeth gwastraff \u2013 atal, ailddefnyddio, ailgylchu, adfer, gwaredu<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddio a hyrwyddo dulliau cynaliadwy o gludiant*<\/li>\n\n\n\n<li>Mabwysiadu dull caffael cynaliadwy i sicrhau&#8217;r gwerth gorau am arian ar sail oes gyfan drwy gefnogi cadwyni cyflenwi\/contractwyr lleol, gan ddefnyddio nwyddau carbon isel, cynaliadwy a moesegol (h.y. Pren ardystiedig FSC, paentiau a gludiau VOC sero neu isel) i leihau carbon a&#8217;r defnydd o adnoddau naturiol a chefnogi masnachu teg<\/li>\n\n\n\n<li>Annog cyflenwyr a chontractwyr i weithio i gynnal y gwerthoedd a fynegir<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Byddem hefyd yn eich annog i adolygu ac amlinellu eich arferion a sut maent yn cyd-fynd \u00e2&#8217;r amcanion hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>* <em>Mae Equilibrium wedi rhyddhau <\/em><a href=\"https:\/\/ecolibrium.earth\/ecolibrium-launch-travel-carbon-app\/\"><em>ap y gellir ei lawrlwytho<\/em><\/a><em> am ddim sydd wedi&#8217;i gynllunio i ganiat\u00e1u i bawb sy&#8217;n gweithio mewn digwyddiadau byw fesur eu hallyriadau carbon o ganlyniad i gludiant yn gyfleus. Mae&#8217;r ap hefyd yn caniat\u00e1u i ddefnyddwyr fodelu teithio carbon is ac yn rhoi cyngor ar sut i leihau \u00f4l-troed carbon teithio a sut i weithredu drwy fuddsoddi mewn datrysiadau sy&#8217;n well i&#8217;r hinsawdd.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym yn gwybod bod ein holl ymwelwyr \u00e2 Sioe Awyr Cymru&#8217;n mwynhau&#8217;r lleoliad anhygoel gymaint \u00e2 ni, ac rydym yr un mor frwdfrydig ac ymrwymedig i sicrhau bod cyn lleied o effaith amgylcheddol o ganlyniad i&#8217;r digwyddiad ag sy&#8217;n bosib. Rydym yn ymgynghori&#8217;n flynyddol ag amrywiaeth o grwpiau i gynllunio&#8217;r Sioe Awyr, gan gynnwys ein [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":5827,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-346","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.6 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cynaladwyedd - Wales Airshow<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\/gynaladwyedd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cynaladwyedd - Wales Airshow\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rydym yn gwybod bod ein holl ymwelwyr \u00e2 Sioe Awyr Cymru&#8217;n mwynhau&#8217;r lleoliad anhygoel gymaint \u00e2 ni, ac rydym yr un mor frwdfrydig ac ymrwymedig i sicrhau bod cyn lleied o effaith amgylcheddol o ganlyniad i&#8217;r digwyddiad ag sy&#8217;n bosib. Rydym yn ymgynghori&#8217;n flynyddol ag amrywiaeth o grwpiau i gynllunio&#8217;r Sioe Awyr, gan gynnwys ein [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\/gynaladwyedd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Wales Airshow\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/WalesNationalAirShow\/\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-02T17:44:19+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FB-Assets-3-1024x1024.png\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"6 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/cy\\\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\\\/gynaladwyedd\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/cy\\\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\\\/gynaladwyedd\\\/\",\"name\":\"Cynaladwyedd - Wales Airshow\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/cy\\\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\\\/gynaladwyedd\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/cy\\\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\\\/gynaladwyedd\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/07\\\/FB-Assets-3-1024x1024.png\",\"datePublished\":\"2013-05-31T10:49:45+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-02T17:44:19+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/cy\\\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\\\/gynaladwyedd\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/cy\\\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\\\/gynaladwyedd\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/cy\\\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\\\/gynaladwyedd\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/07\\\/FB-Assets-3-1024x1024.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/07\\\/FB-Assets-3-1024x1024.png\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/cy\\\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\\\/gynaladwyedd\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cynlluniwch eich ymweliad\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/cy\\\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Cynaladwyedd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Wales Airshow\",\"description\":\"Taking to the skies over Swansea Bay on 25 and 26 July 2026\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.walesnationalairshow.com\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cynaladwyedd - Wales Airshow","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\/gynaladwyedd\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Cynaladwyedd - Wales Airshow","og_description":"Rydym yn gwybod bod ein holl ymwelwyr \u00e2 Sioe Awyr Cymru&#8217;n mwynhau&#8217;r lleoliad anhygoel gymaint \u00e2 ni, ac rydym yr un mor frwdfrydig ac ymrwymedig i sicrhau bod cyn lleied o effaith amgylcheddol o ganlyniad i&#8217;r digwyddiad ag sy&#8217;n bosib. Rydym yn ymgynghori&#8217;n flynyddol ag amrywiaeth o grwpiau i gynllunio&#8217;r Sioe Awyr, gan gynnwys ein [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\/gynaladwyedd\/","og_site_name":"Wales Airshow","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/WalesNationalAirShow\/","article_modified_time":"2025-07-02T17:44:19+00:00","og_image":[{"url":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FB-Assets-3-1024x1024.png","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"6 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\/gynaladwyedd\/","url":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\/gynaladwyedd\/","name":"Cynaladwyedd - Wales Airshow","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\/gynaladwyedd\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\/gynaladwyedd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FB-Assets-3-1024x1024.png","datePublished":"2013-05-31T10:49:45+00:00","dateModified":"2025-07-02T17:44:19+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\/gynaladwyedd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\/gynaladwyedd\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\/gynaladwyedd\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FB-Assets-3-1024x1024.png","contentUrl":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FB-Assets-3-1024x1024.png"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\/gynaladwyedd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cynlluniwch eich ymweliad","item":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/gwybodaeth-i-ymwelwyr\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Cynaladwyedd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/","name":"Wales Airshow","description":"Taking to the skies over Swansea Bay on 25 and 26 July 2026","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/346","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=346"}],"version-history":[{"count":27,"href":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/346\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11758,"href":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/346\/revisions\/11758"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5827"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.walesnationalairshow.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=346"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}