Mae Tîm Arddangos Parasiwt y Tigers yn ymddangos ar ddau ddiwrnod Sioe Awyr Genedlaethol Cymru!
Bydd y parasiwtwyr profiadol o dîm arddangos parasiwt Catrawd Frenhinol Tywysoges Cymru – “The Tigers” – yn glanio ym Mae Abertawe ar ddau ddiwrnod y Sioe Awyr eleni. Gydag ôl-fwg a baneri’n chwifio byddant yn perfformio trefniannau anhygoel yn yr awyr ac o dan y parasiwtau.
Mae gan y Tigers amrywiaeth eang o batrymau arddangos y mae pob un ohonynt yn ddeinamig o ran arddull. Byddant yn eich swyno chi a’r gynulleidfa drwy gydol y perfformiad cyfan. Dyma gyfle i weld un o’r arddangosiadau parasiwt mwyaf syfrdanol.