Wales Airshow

Taking to the skies over Swansea Bay on 3 and 4 July 2021

  • Sioe Awyr Cymru
    • Diwrnod y Lluoedd Arfog
    • Arddangosiadau ar y ddaear
    • Cynaladwyedd
  • Sioe Awyr Cymru #Gartref
  • Newyddion
  • Noddwyr
    • Cyfleoedd Masnachol
    • Sioe Awyr Cymru Noddwyr
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Yr Wybodaeth Ddiweddaraf
  • cyCymraeg
    • enEnglish

Lansio ap newydd ar gyfer Sioe Awyr Genedlaethol Cymru

Mai 19, 2016 By Chris Rees

The Wales National Airshow APP - Coming Soon!
Mae’r ap SAGC16 swyddogol, sydd bellach ar gael ar iPhone yn ogystal â ffonau Android a Windows, yn cynnwys y newyddion diweddaraf, gwybodaeth am arddangosiadau awyr a thir, dolenni i westai a manylion am fwytai a digwyddiadau eraill yn Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi ymuno â nifer o fusnesau lleol sy’n darparu nifer o gynigion arbennig y gellir eu defnyddio ym Mae Abertawe ac o’i gwmpas yn ystod penwythnos y Sioe Awyr.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru am ddim wedi bod yn llwyddiant mawr i Abertawe ers iddi gael ei chyflwyno yn 2009, ond rydym o hyd yn chwilio am ffyrdd o wella’r digwyddiad a’r profiad i ymwelwyr.

“Mae’r ap sy’n seiliedig ar Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’n syniad gwych, gan alluogi pobl i gael y newyddion diweddaraf am y Sioe Awyr pan y bônt yn crwydro ac yn mwynhau’r arddangosiadau awyr a thir dros y penwythnos. Yn ogystal â helpu pobl i drefnu eu hymweliad â Bae Abertawe, bydd yr ap hefyd yn cynnwys amserlen y digwyddiad pan gaiff manylion eu cadarnhau, yn ogystal â gwybodaeth am unrhyw newidiadau munud olaf.

“Gobeithiwn y bydd yr ap yn gwella’r profiad i ymwelwyr, sydd gwerth dros £7.6 miliwn i’r economi leol, wedi i sioe’r llynedd ddenu dros 170,000 o wylwyr. Y math yma o boblogrwydd sy’n arwain at nifer o geisiadau gan y cyhoedd i wneud Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’n ddigwyddiad blynyddol.

Cynhelir Sioe Awyr Genedlaethol Cymru ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf a dydd Sul 3 Gorffennaf. Ymysg yr arddangosiadau sydd eisoes wedi eu cadarnhau yw The Red Arrows, The Eurofighter Typhoon, The Bronco Demo Team, Team Yakovlevs a Team Raven.

Bydd arddangosiadau eraill, yn ogystal â manylion am adloniant ar y ddaear, yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf, ynghyd â chynigion arbennig sy’n cael eu hychwanegu’n gyson wrth i’r digwyddiad nesáu.

Bydd rhestr gynhwysfawr o amserau arddangos yn cael eu rhoi ar yr ap am 10am ar 30 Mehefin.

Gellir lawrlwytho’r ap o iTunes, Google Play ac App Store ffôn Windows.

Download the WNAS16 APP NOW!

 

Filed Under: Airshow News, Press Releases Tagged With: Android APP, Apps, Display Timetable, iOS APP, Special Offers, Vouchers, Windows APP

Dau dîm o’r radd flaenaf bellach yn rhan o ddigwyddiad y Sioe Awyr

Mai 12, 2016 By Chris Rees

Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau y bydd Tîm Arddangos Bronco a Thîm Yakovlevs yn cymryd rhan yn y digwyddiad am ddim ddydd Sadwrn a dydd Sul, 2 a 3 Gorffennaf.

Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yn rhan o raglen Joio Bae Abertawe’r cyngor sy’n llawn digwyddiadau a gweithgareddau.

Mae Tîm Arddangos Bronco wedi bod yn arddangos mewn digwyddiadau ar draws Ewrop ers 2010. Er y cafwyd nifer o fodelau amrywiol, mae awyren wreiddiol North American Rockwell OV-10 Bronco yn awyren arsylwi a ddefnyddiwyd gyntaf yn Rhyfel Fietnam.

Gyda mwy na 1,000 o arddangosiadau ym mhedwar ban byd, mae gan Dîm Yakovlevs gyfoeth o brofiad. Wedi’i dylunio gan Yakovlev Design Bureau enwog Moscow, mae’r awyren hefyd wedi’i defnyddio ar gyfer hyfforddiant a chystaldeuaethau erobatig.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae’r rhestr ar gyfer un o’r digwyddiadau yr edrychir ymlaen ato fwyaf yn Abertawe’r haf hwn yn dechrau dwyn ffrwyth.

“Yn ogystal â’r awyrennau eraill sy’n cymryd rhan ac amrywiaeth o weithgareddau ac arddangosfeydd ar y ddaear, bydd Tîm Arddangos Bronco a Thîm Yakovlevs yn diddanu miloedd o breswylwyr ac ymwelwyr ag Abertawe dros y penwythnos ym mis Gorffennaf.

“Bydd mwy o awyrennau’n cael eu cadarnhau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf wrth i ni barhau i edrych ymlaen at y digwyddiad sy’n rhoi Abertawe ar y map yn y DU ac ymhellach i ffwrdd.”

Eleni, dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad Sioe Awyr Genedlaethol Cymru gael ei gynnal am ddwy flynedd yn olynol, wrth i Gyngor Abertawe barhau i ddatblygu’r digwyddiad yn atyniad blynyddol.

Heidiodd mwy na 170,000 o wylwyr i bromenâd Abertawe i fwynhau Sioe Awyr y llynedd, gan greu mwy na £7.6 miliwn i’r economi leol.

Filed Under: Uncategorized @cy

The Official WNAS16 APP – Coming Soon!

Ebrill 28, 2016 By Chris Rees

WNAS16 APP Coming Soon!

The Wales National Airshow 2016 app will enable spectators to view the official timetable of displays within a dynamic timetable. It will also provide details on each of the acts on display, links to help you plan your visit as well as access to a whole host of discount offers at our marketing partners.

Details on when the app will be available in the various app stores will announced shortly.

Filed Under: Airshow News Tagged With: #WNAS16, APP, Display Times

Tîm Raven i ymddangos yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru

Ebrill 26, 2016 By Chris Rees

Bydd peilotiaid lleol, anturus yn esgyn i’r awyr uwchben Bae Abertawe i ddifyrru miloedd o bobl yr haf hwn.

Mae Cyngor Abertawe bellach wedi cadarnhau y bydd Tîm Raven yn cymryd rhan yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru a gynhelir ar benwythnos dydd Sadwrn 2 Gorffennaf a dydd Sul 3 Gorffennaf.

Tîm arddangos erobateg patrymog yw Tîm Raven a gafodd ei ffurfio ym mis Mai 2014 ar ôl i Dîm Osprey a Thîm Viper chwalu.

Mae’r cadarnhad y bydd y tîm yn ymddangos yn sioe awyr am ddim eleni yn dilyn newyddion y bydd y Red Arrows ac Eurofighter Typhoon yn cymryd rhan hefyd.

Caiff mwy o awyrennau ac adloniant eu cadarnhau dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod wrth i Gyngor Abertawe geisio gwneud y sioe awyr yn ddigwyddiad blynyddol.

Denodd sioe awyr y llynedd fwy na 170,000 o wylwyr, gan greu dros £7.6 miliwn i economi Abertawe.

Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae’n newyddion gwych fod Tîm Raven bellach wedi cadarnhau ei fod yn cymryd rhan yn sioe awyr yr haf hwn.

“Roedd y tîm yn boblogaidd iawn pan gymerodd ran yn sioe awyr y llynedd, ac mae’r ffaith ei fod yn cymryd rhan yn golygu y bydd y digwyddiad unwaith eto’n arddangos doniau lleol, yn ogystal â pheilotiaid ac awyrennau o bob rhan o’r DU a thramor.

“Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yn ddigwyddiad pwysig am sawl rheswm. Nid yn unig y mae’n rhoi gwledd benigamp i’r llygaid i bobl leol ar garreg eu drws, ond mae hefyd yn denu miloedd o ymwelwyr, gan helpu i gynyddu gwariant yn ein gwestai, ein siopau, ein tafarndai, ein bwytai ac mewn busnesau lleol eraill.

“Rydym am sicrhau bod y digwyddiad yn ysgogi’r economi ymwelwyr. Dyna pam rydym am ei wneud yn ddigwyddiad blynyddol yn Abertawe i sicrhau bod pobl yn cynllunio i aros yma yn ystod cyfnod y digwyddiad bob blwyddyn gan gefnogi cynaladwyedd y sector twristiaeth.

“Gallwn sicrhau’r hai sy’n dwlu ar sioeau awyr ein bod yn dal i ddatblygu’r rhestr derfynol o berfformwyr eleni, a chaiff manylion awyrennau ac atyniadau eraill eu cadarnhau wedi i ni ei chwblhau.

Mae’r Red Arrows, a ffurfiwyd ym 1964, wedi perfformio mwy na 4,700 o arddangosiadau mewn 56 o wledydd ym mhedwar ban byd. Mae’r Eurofighter Typhoon, jet ymladd arloesol, yn gallu hedfan ar gyflymder o oddeutu 1,000mya heb ôl-losgwyr.

Cadwch lygad ar www.sioeawyrcymru.com am y newyddion diweddaraf.

Filed Under: Newyddion

Red Arrows wedi’u cadarnhau ar WNAS16

Chwefror 23, 2016 By Chris Rees

red-arrows-feature-small

Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi mai’r ffefrynnau fydd y prif berfformiad unwaith eto ar y ddau ddiwrnod yn y digwyddiad am ddim.

Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru eleni, sy’n rhan o raglen ddigwyddiadau Joio Bae Abertawe, yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf a dydd Sul 3 Gorffennaf.

Hwn fydd y tro cyntaf i’r sioe awyr gael ei chynnal mewn dau haf yn olynol wrth i Gyngor Abertawe geisio’i gwneud yn ddigwyddiad blynyddol.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae cynllunio wedi hen ddechrau i Sioe Awyr Genedlaethol Cymru ddychwelyd.  Mae hyn wedi cynnwys cyd-drafodaethau i gadarnhau y bydd y Red Arrows byd-enwog, sydd bob amser wedi cael croeso cynnes iawn yn y gorffennol, yn cymryd rhan. Rydyn ni’n benderfynol o barhau i ddiwallu disgwyliadau pobl. Mae’r Red Arrows bob amser yn plesio’r dorf ac mae’r ffaith eu bod nhw’n dychwelyd yn dangos ein bod ni ar y trywydd iawn. Byddwn ni’n cyhoeddi mwy o awyrennau ac adloniant ar y tir dros yr wythnosau nesaf wrth i’r manylion terfynol gael eu trefnu.”

Y llynedd, denodd Sioe Awyr Genedlaethol Cymru fwy na 170,000 o wylwyr, gan greu dros £7.6 miliwn i’r economi leol yn Abertawe.

Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Ein bwriad yw gwneud y sioe awyr flynyddol yn un o ddigwyddiadau allweddol ein rhaglen Joio Bae Abertawe, sy’n llawn amrywiaeth ac yn addas i deuluoedd. Mae hyn yn gwneud synnwyr perffaith gan fod y digwyddiad yn denu ymwelwyr o bob rhan o’r DU a’r tu hwnt, yn rhoi adloniant o’r safon orau i bobl leol ar garreg eu drws ac yn rhoi hwb i wariant mewn gwestai, lleoedd gwely a brecwast, siopau, tafarnau, bwytai a busnesau lleol eraill.

“Gan y bydd y sioe awyr ar ddyddiad penodol yn y calendr blynyddol, bydd yn rhoi mwy o sicrwydd i bobl wrth drefnu eu gwyliau – p’un ai preswylwyr lleol sydd ddim eisiau colli’r sioe neu ymwelwyr â Bae Abertawe sydd eisiau gwneud y sioe’n rhan ganolog o’u taith. Mae sioe awyr flynyddol hefyd yn golygu ein bod ni’n gallu datblygu pecynnau nawdd a chyfleoedd masnachu’r digwyddiad ymhellach yn y dyfodol.”

Filed Under: Uncategorized @cy

  • « Previous Page
  • 1
  • …
  • 5
  • 6
  • 7

Cysylltwch a ni

Sioe Awyr Cymru 2021

Mae Sioe Awyr Cymru, digwyddiad am ddim mwyaf Cymru, yn dychwelyd i Fae Abertawe ar 3 a 4 Gorffennaf 2021!

Partner Radio

Y diweddaraf am Sioe Awyr Cymru 2020

O ganlyniad i'r sefyllfa bresennol, mae digwyddiadau a drefnir yn uniongyrchol gan Gyngor Abertawe wedi'u canslo neu eu gohirio nes diwedd Awst 2020.   Mae'n ddrwg gennym gyhoeddi bod y digwyddiadau a ganslwyd yn cynnwys Sioe Awyr Cymru 2020 a oedd i'w chynnal ar 4 a 5 Gorffennaf eleni.  

Mwy o wybodaeth

News

  • Sioe Awyr Cymru #Gartref cystadleuaeth
  • Ydych chi erioed wedi ystyried sut brofiad yw hedfan jet y Red Arrows?
  • Y diweddaraf am Sioe Awyr Cymru 2020
  • Sioe Awyr Cymru Dyddiadau 2020
  • Amazing weekend for 2019 Wales Airshow
https://youtu.be/6UmaqUYo32M

Sioe Awyr Cymru

Mae Sioe Awyr Cymru, digwyddiad am ddim mwyaf Cymru, yn dychwelyd i Fae Abertawe ar 3 a 4 Gorffennaf 2021. Mae digwyddiad am ddim Sioe Awyr Cymru'n cynnwys arddangosiadau erobatig syfrdanol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o'r oes a fu sy'n diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr â Bae Abertawe. Gallwch ddisgwyl arddangosiadau awyr ardderchog, arddangosiadau gwych ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael diweddariadau, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol.

Sut mae Sioe Awyr Cymru’n edrych?

https://www.youtube.com/watch?v=6UmaqUYo32M

YR WYBODAETH DDIWEDDARAF

Derbyniwch ddiweddariadau am Sioe Awyr Cymru ar ffurf e-bost ac ar gyfryngau cymdeithasol.



CYSYLLTWCH Â NI

JOIO ABERTAWE

Darganfyddwch ddigwyddiadau gwych eraill a gynhelir yn Abertawe gyda Joio Bae Abertawe.



JOIO ABERTAWE

Cyngor Abertawe

Swansea Council logo

Return to top of page

Privacy · Cookies · Copyright © 2021 · Wales National Air Show

  • en
  • cy
I’n helpu i ddarparu’r profiad pori gorau posib, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Dewch o hyd i wybodaeth am sut gallwch reoli ac analluogi eich cwcis yma.